Gwyl 2012

Company of Elders yn ymweld â Galeri, Caernarfon

2012galeri-caernarfonCynhaliodd Galeri, Caernarfon, ymweliad gan y grŵp o ddawnswyr hŷn sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, Company of Elders o Theatr Sadlers Well yn Llundain. Ar ôl gweithdai dawns gydag aelodau TONIC, fe wnaethant gyflawni perfformiad arbennig a oedd yn dangos doniau’r grŵp rhyfeddol hwn o bobl hŷn.

Roedd digwyddiad Company of Elders yn wych! Fe wnaeth ein haelodau TONIC fwynhau’r digwyddiad yn fawr, yn ogystal ag agwedd cymdeithasu eu hymweliad. Roedd y perfformiad gan Company of Elders yn emosiynol ac ysbrydoledig.

Mae gan Galeri ei grŵp dawns pobl hŷn ei hun bellach, sef CAIN, sy’n perfformio’n rheolaidd o dan gyfarwyddyd y coreograffydd blaenllaw o Gymru, Cai Tomos.

Yr Ŵyl Geltaidd yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Fe wnaeth yr Ŵyl Geltaidd ddathlu gwaith ysgrifenedig newydd, gan arddangos tair o’r dramâu newydd gorau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhoddodd Gwanwyn gyfleoedd i bobl hŷn weld perfformiadau arloesol gan Citizens Theatre, Glasgow, The Lyric Theatre, Belfast a Theatr Clwyd Cymru:

The Monster in the Hall gan David Greig. Sioe gerdd gomedi am ferch ar fin cael chwalfa nerfol. Caiff y ddrama ei pherfformio gan 4 actor-cerddor, ac mae’r arddull cynhyrchu yn un sylfaenol, yn adrodd straeon a hybir gan ysgrifennu a chyfarwyddo da, a pherfformiadau trawiadol.

White Star of the North gan Rosemary Jenkinson. Fe wnaeth y ddrama newydd hon amlygu’r flwyddyn enwocaf yn hanes Belfast – 1912 – blwyddyn y Titanic a Chyfamod Ulster, a lofnodwyd yn y ddinas mewn protest yn erbyn y Third Home Rule Bill i sefydlu senedd yn Nulyn.

Bruised, drama newydd gan y dramodydd o Gymru, Matthew Trevannion, wedi’i chyfarwyddo gan Kate Wasserberg. Wedi’i lleoli ym Mhontypwl, mae’n ddrama ffyrnig, ddoniol a hyfryd am deulu, dewrder ac etifeddiaeth trais.

Theatr Evening Post Abertawe

2012evening-post-theatreUnodd gŵyl Gwanwyn â Chwmni Theatr Grand Slam i gyflwyno Cappuccino Girls gan Mal Pope.

Perfformiwyd y sioe gerdd yn Theatr Evening Post Abertawe. Roedd y lle’n edrych fel bar coffi o’r 1950au lle’r oedd pethau’n digwydd o gwmpas y gynulleidfa yn lle ar lwyfan traddodiadol.
Trefnodd Gwanwyn berfformiad prynhawn, yn arbennig ar gyfer pobl hŷn o ran o ardaloedd mwyaf arunig gorllewin Cymru, a fyddai fel arall wedi’i chael hi’n anodd cyrraedd y digwyddiadau. Mynychodd oddeutu 150 o bobl hŷn y perfformiad.

Gwersyll Comedi

2012comedy-camp-phil-westcottCymerodd Gwanwyn gam mentrus i fyd comedi digrifwyr, gan weithio gyda Gŵyl Gomedi Caerdydd i annog pobl hŷn i ddatblygu eu sgiliau comedi, a arweiniodd at noson lwyddiannus iawn yn y Glee Club ym Mae Caerdydd.

Gweithiodd y digrifwr Matt Price gyda digrifwyr addawol Gwanwyn yn eu helpu i wella eu comedi ymhellach a datblygu eu gwaith i lefel fwy proffesiynol.

Daeth y rhaglen i ben gyda pherfformiad yn Llyfrgell Caerdydd, lle bu cyfranogwyr y Gwersyll Comedi yn arddangos y sgiliau yr oeddent wedi’u datblygu.

Mae rhai o’r digrifwyr a gymerodd ran yn y Gwersyll Gomedi wedi dechrau perfformio’n rheolaidd, gan gynnwys ymddangosiadau ar BBC Radio Wales, Capital Age Festival yn South Bank Llundain, ac mewn digwyddiadau ar gyfer pobl hŷn yn ystod dathliadau’r Jiwbilî Ddiemwnt.

Digwyddiad Diwylliant Traddodiadol Butetown, Caerdydd

2012-traditional-culture-event-butetownCCynhaliodd Canolfan Hamdden Channel View yn Butetown, Caerdydd, ddiwrnod Gwanwyn arbennig a oedd yn cynnwys menywod a phlant o’r cymunedau Somalïaidd, Yemenïaidd, Sudaneaidd, Indiaidd, Bengaleg, Pacistanaidd a chymunedau eraill o Butetown. Fe wnaeth y digwyddiad amlddiwylliant ddod â bwyd, cerddoriaeth a phobl o bob oed at ei gilydd, i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth bywyd yn Butetown.

Roedd yr ystafell yn llawn hwyl, egni ac ysbryd cymunedol, ac ymunodd pawb â’i gilydd i ddawnsio a pherfformio cerddoriaeth a fyddai’n sicr o wneud i chi ddawnsio – heriaf unrhyw un i beidio â chodi ar eu traed!

Prosiect Men Talking

men-talking-health-logoNod y prosiect Men Talking oedd cyflwyno’r neges ynghylch canser y brostad i ddynion hŷn yng Nghymru. Gan ddefnyddio dawns, cerddoriaeth, caneuon a straeon personol, gweithiodd y prosiect gyda dynion hŷn mewn lleoliadau gwrywaidd yn draddodiadol, fel corau meibion, clybiau rygbi a.y.y.b. i gynnal gweithdai a pherfformiadau fel rhan o ymgyrch hyrwyddo iechyd ehangach o’r enw Give 1000 Welshmen a Voice.

Roedd y prosiect yn cynnwys gweithdai a pherfformiadau gyda chorau meibion ym Mhort Talbot, Porthcawl a’r Barri. Ffilmiwyd lansiad y prosiect yn y Senedd ym mis Ebrill 2012 a gallwch ei wylio yma:

Shake a Leg – Rubicon

2012-shake-a-legRoedd Age Cymru a Rubicon Dance eisiau annog cynnydd mewn arwain a datblygu gweithgarwch dawns er budd pobl hŷn yn y gymuned a’u hannog mewn sesiynau dawns rheolaidd a oedd yn hwyl, yn gymdeithasol ac yn hyrwyddo iechyd a ffitrwydd gwell.

Lluniwyd llawlyfr o wybodaeth ac adnoddau wedi’i anelu at annog ymarferwyr dawns i weithio gyda dawnswyr hŷn, a oedd yn cyd-fynd â rhaglen hyfforddi ac ymwybyddiaeth ddeuddydd a gynhaliwyd yn stiwdio Rubicon Dance yng Nghaerdydd.

Roedd yn cynnwys –

  • Gweithdy dan arweiniad y coreograffydd, Cai Tomos, artist enwog o Gymru sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd.
  • Heriau gweithio gyda phobl hŷn gyda Lucinda Jarrett, Cyfarwyddwr, Rubicon Dance
  • Perfformiad gan Cofio, cwmni dawns pobl hŷn o Maerdy a chyflwyniad am eu gwaith gan Gyfarwyddwr Artistig Cofio, Julie Evans.
  • Perfformiad a gweithdy gyda grŵp dawns Nu Wave.
  • Gweithio’n ddiogel gyda grwpiau hŷn gyda Diane Amans, ymgynghorydd Dawns Cymunedol a chyfarwyddwr Freedom in Dance.
  • Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Dawns gyda Ruth Till, o Foundation for Community Dance.