Bryn Gobaith – Hope Hill

Drama Gymraeg newydd “…grymus, dirdynnol a doniol ar adegau”

Mae Megan wedi byw ar ei phen ei hun ers colli ei gŵr ugain mlynedd yn ôl. Mae hi’n benderfynol, yn annibynnol ac yn oroeswraig. Ar ôl syrthio yn ei hystafell wely, mae’n rhaid iddi fynd i gartref gofal. Mae’r newid sydyn ynddi ar ôl iddi gyrraedd y cartref yn dychryn ei theulu. Mae’n drysu rhwng y gorffennol a’r presennol ac yn fuan mae pawb yn dweud nad yw’n “llawn llathen”.

Mae Dafydd, ei hŵyr, yn gwrthod derbyn hyn. Ni ddylent eu diystyru mor sydyn. Mae ef o’r farn fod y fflam yn dal i losgi y tu mewn iddi ac mae’n benderfynol o’i helpu. Mae’n mynd ar drywydd ei hatgofion, yn siarad â hi ac yn ceisio ei thynnu’n ôl i’r presennol. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid iddo wynebu rhai posibiliadau annifyr. A yw staff y cartref yn ei cham-drin? A oes aelod o’r teulu ar ôl ei chynilion?

Gwelwn Dafydd yn mynd â ni ar daith rymus, emosiynol a doniol ar brydiau i adfer cof ei famgu – sefyllfa a allai fod yn berthnasol i bob un ohonom.