Dathlu Creadigrwydd Pobl Hŷn

English
 

gŵyl gwanwyn

Mae gŵyl gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy’n cael ei chynnal gydol mis Mai ledled Cymru i ddathlu creadigrwydd pobl hŷn.

Mae’r ŵyl yn cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gyfrannu at y celfyddydau ac yn gyfle i amlygu a hyrwyddo cyfraniad pobl hŷn at y celfyddydau gydol y flwyddyn.

Yn ystod mis Mai, mae grwpiau ac unigolion yn dod ynghyd mewn amrywiaeth eang o leoliadau ledled Cymru i ddathlu gyda gwledd o b
aent, clai, ffotograffiaeth, theatr, dawns, ysgrifennu creadigol, ffilm, hel straeon, a llawer mwy. Dyma’r cyfle i weld perfformiadau ac arddangosfeydd, cyfrannu at weithdai a thrafodaethau, rhwydweithio ac yn anad dim, cyfle i gael tipyn o hwyl a sbri!


Gall pawb gyfrannu at gwanwyn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, naill ai fel trefnydd, cyfrannwr, perfformiwr, cynulleidfa neu feirniad.


Cynlluniau ar gyfer gŵyl gwanwyn 2008 

Uchafbwyntiau gwanwyn 2007


Pam pobl hŷn?


Yn aml, mae syniadau poblogaidd ynglŷn â phwy sy’n creu celfyddyd a chyfrannu at y celfyddydau yng Nghymru’n seiliedig ar ystrydebau.  Mae pobl yn tybio ar gam bod pobl hŷn yn segur ac yn ddibynnol ar eraill, er mai’r gwrthwyneb sy’n wir yn aml.

Mae’r bobl hŷn yn garfan hynod amrywiol o’r boblogaeth. Fodd bynnag, cafodd llawer o bobl hŷn eu magu mewn cyfnod pan oedd rhwystrau economaidd, addysgol, cymdeithasol a daearyddol eu rhwystro rhag cyfrannu at y celfyddydau.

 

I lawer, mae henaint yn gychwyn newydd: yn gyfle i archwilio creadigrwydd, i ddatblygu lleisiau beirniadol ac i gyfrannu’n llawn at fywyd artistig a diwylliannol y wlad.

I bob pwrpas mae pobl hŷn yn adnodd newydd o artistiaid, trefnwyr, beirniaid a chynulleidfa na welwyd o’r blaen.

 



"Mae celfyddyd yn cynnig gofod – lle arbennig i’r ysbryd anadlu." - John Updike