Download the Gwanwyn Festival 2012 Information Pack (English) here.
(Right-click and select ‘Save Target As…’ to download.)

Gwanwyn yw’r ŵyl genedlaethol sydd yn cael ei chynnal ym mis Mai bob blwyddyn ledled Cymru i ddathlu creadigrwydd pobl hŷn.
Mae Gwanwyn yn dathlu bod yn hŷn fel cyfle i aildyfu a chreu. Ein nod yw cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd mwy o ran yn y celfyddydau, boed hynny yn gelfyddydau gweledol, drama, adrodd stori, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffotograffiaeth, dawns neu ffilm.
- Prosiectau blaenorol – cipolwg ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gwyliau blaenorol er mwyn ysbrydoli eich dychymyg a’i roi ar waith ar gyfer eich digwyddiad gŵyl Gwanwyn chi. Mae’r digwyddiad yn tyfu o flwyddyn o flwyddyn, yn gwella ac yn fwy uchelgeisiol. Dechreuwch gynllunio heddiw!
- Cymerwch rhan -Mae grwpiau o bobl hŷn ledled Cymru yn edrych ar eu creadigrwydd eu hun mewn pob math o ffordd. Dyma’r hafan lle y gallwch ddarganfod y grwpiau neu’r sefydliadau sydd yn eich ardal chi. Rywle mae yna grŵp yn chwilio am rywun union fel chi.
- Cysylltwch â ni - Mae gan Dîm y Gwanwyn gyfoeth o wybodaeth a ffeithiau i’ch helpu chi i gynllunio, trefnu a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiad. Cysylltwch â ni – rydym yma i’ch helpu.
I lawrlwytho logo Gwanwyn, cysylltwch â Phil Thomas ar 029 2043 1555 am fanylion pellach.
Lawrlwythwch Gwanwyn Festival 2012 Information Pack(Cym)
Gŵyl Gwanwyn yw’r cyfle perffaith i ddechrau ar weithgaredd creadigol newydd neu i fynd yn ôl unwaith yn rhagor at y creadigrwydd a oedd yno yn eich ieuenctid. Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad celfyddydol mwyaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.





