
Ein
nod yw rhoi cyfle i bobl hŷn gyfrannu at y celfyddydau, fel drama, hel straeon,
cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffotograffiaeth, dawns, ffilm neu’r celfyddydau
gweledol.
Cynhaliwyd
gŵyl gyntaf
gwanwyn ym mis Mai 2007. Cymerodd cannoedd o bobl hŷn
ran mewn 125 a mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig mewn 60 a mwy o
leoliadau ledled Cymru. Dysgwyd llawer o sgiliau newydd a daeth llu o ddoniau
cudd i’r amlwg - y cwbl wrth fwynhau gweithgaredd creadigol a chyfarfod â phobl
newydd a diddorol yn aml. Cliciwch yma i weld
uchafbwyntiau’r ŵyl neu ewch i’n
oriel i weld rhywfaint o waith celf gwych pobl hŷn.
Efallai
eich bod chi am drefnu gweithgareddau creadigol i bobl hŷn – mae’n brofiad
pleserus a gwerth chweil.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am adnoddau,
cyllid a chymorth a all fod ar gael i’ch helpu.
"Mae pob plentyn yn arlunydd. Yr anhawster yw sut i barhau’n arlunydd wedi i ni dyfu" - Pablo Picasso