cARTrefu
Mae cARTrefu yn rhaglen ddwy flynedd sydd â’r bwriad o wella mynediad at brofiadau celfyddydol o ansawdd i bobl hŷn mewn gofal preswyl.
Rydym yn gosod uchelgeisiau ac anghenion artistig pobl hŷn wrth galon dylunio a chyflwyno, a sicrhau eu bod nhw’n ganolog i’r prosiect hwn. Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.
Mae Age Cymru wedi recriwtio 16 o artistiaid proffesiynol mewn pedwar maes gwahanol: Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau Gweledol, Geiriau a Cherddoriaeth. Bydd yr artistiaid hyn yn cyflwyno cyfnodau hyfforddi sy’n para 8 wythnos ar hyd a lled Cymru, gan gyflwyno cymysgedd o ffurfiau celf sefydledig a gweithgareddau newydd efallai nad yw’r preswylwyr wedi cael cyfle i’w cyflawni o’r blaen.
Dros y ddwy flynedd, bydd pob artist yn cwblhau 8 cyfnod hyfforddi, sy’n golygu, trwy cARTrefu, bydd Age Cymru yn cyflwyno hyd at 1,024 o weithdai celf mewn cartrefi gofal ledled Cymru, yn rhad ac am ddim!
Yr artistiaid a staff cartrefi gofal
Mae cARTrefu yn rhoi pwyslais ar ddatblygu ymarfer proffesiynol pob artist, nid yn unig trwy roi cyfle iddyn nhw weithio gyda phobl hŷn, ond hefyd trwy ddarparu cynllun mentora artistiaid strwythuredig a chymorth parhaus gan gydlynwyr cARTrefu.
Rydym yn gobeithio y bydd cARTrefu yn meithrin mwy o werthfawrogiad o’r celfyddydau ymhlith staff cartrefi gofal wrth iddyn nhw weithio gyda’n hartistiaid. Rydym ni eisiau i staff cartrefi gofal ennill sgiliau newydd a chael mwy o hyder o ran eu rhannu a’u hymarfer nhw, er mwyn i etifeddiaeth gref o gymryd rhan yn y celfyddydau ymestyn ymhell y tu hwnt i ddiwedd y prosiect, a dod yn rhan o ddiwylliant cartrefi gofal.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â cartrefu@agecymru.org.uk.