Commissioners’ Choice Project Gwanwyn Festival 2013, MOSTYN – Youth Programme | Gŵyl Gwanwyn 2013, MOSTYN – Rhaglen Ieuenctid

Posted Saturday, June 29th, 2013

Mae MOSTYN wedi cael ei dewis i gynrychioli Rhanbarth Gogledd-ddwyrain Cymru i arwain y prosiect Comisiynydd Dewis trwy gydol Mai/ Mehefin mewn cydweithreded ag Age Cymru a Gŵyl Gwanwyn.

Mae’r prosiect Comisiynydd Dewis wedi galluogi’r bobl ifanc oedran 15 – 25  sef rhaglen newydd pobl ifanc MOSTYN y cyfle i weithio gyda’i gilydd am y tro cyntaf fel grŵp. Mae’r prosiect wedi darparu’r bobl ifanc gyda’r profiad unigryw ar sut i datblygu prosiect, gan ganiatáu nhw i ymchwilio a cyfnewid syniadau a rhannu ei profiadau gyda’r cenhedlaeth hŷn, gweithio ynghyd gyda mudiadau fel Blind Veterans UK, Cartref Gofal Llys Erw, Cartref Gofal Llys Elian a Cymuned TAPE i ddatblygu gwaith sain a ffilm ddigidol sy’n  seiliedig ar y testun ‘ Beth oedd Nos Sadwrn allan yn  feddwl i mi tra’r oeddwn i’n ifanc?’

Bydd y prosiect digidol yn cael ei arddangos i’r cyhoedd ym MOSTYN ar Sadwrn y 29 ain o Fehefin, gan gynnwys gosodiad sain a bocsys atgofion synhwyrol creuwyd gan y MOSTYN Ninjas: Rhaglen ieuenctid oedran 11-14, sy’n dal atgofion ei neiniau a theidiau, teuluoedd a ffrindiau sy’n 55 oed neu’n hŷn am eu nos Sadwrn nodweddiadol tra’n yn ei harddegau.

Bydd hyn yn dilyn gyda digwyddiad am 2y.p ar Sadwrn 29ain o Fehefin i ddathlu’r cydweithrediad rhwng y bobl ifanc ar genhedlaeth hyn fel rhan o’r ŵyl Gwanwyn. Bydd yr ŵyl yn cynnwys neuadd ddawns, parti te gardd tu fewn, gemau, ffotograffiaeth a mwy.

Os hoffech chi ddod i’r ŵyl gadewch i ni wybod erbyn Dydd Mercher Mehefin 26ain I gadarnhau eich lle.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Sioned Phillips E-bost: sioned@mostyn.org
neu Ffoniwch 01492 879 201