Arts and Older People Conference 2017 - Cynhadledd Celfyddyd a Phobl Hyn 2017|
Type of Event: Media
‘Henaint sydd hardd, heneiddio sydd dda’ (Rhydwen Williams)
Sut gall gweithgareddau'r celfyddydau helpu i greu cymunedau sy'n gyfeillgar i bobl h?n?
Sut gall creadigrwydd helpu pobl h?n i fyw bywyd braf a mwynhau blynyddoedd eu henaint?
Bydd y sesiwn ryngweithiol a difyr hon yn edrych ar rôl y celfyddydau wrth greu cymunedau sy'n gyfeillgar i bobl h?n, a chyfraniad gweithgarwch creadigol wrth gynorthwyo pobl h?n i gadw eu hannibyniaeth.
Bydd yn dangos sut y gall gweithgareddau celfyddydol effeithiol helpu i wella lles; gan leddfu'r teimladau o arwahanrwydd ac unigrwydd mewn pobl h?n a chan gyfrannu at ddeilliannau dymunol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.
Trefnir yr achlysur gan Age Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Sefydliad Baring.
Ar gyfer pwy mae'r gynhadledd hon?
•Pobl sy'n llunio polisïau ac sy'n gyfrifol am raglenni heneiddio'n iach ac yn egnïol
•Pobl a sefydliadau sy'n gweithio dros awdurdodau lleol ym maes cynlluniau Heneiddio'n Dda
•Gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda phobl h?n
•Pobl sy'n gweithio ym myd y celfyddydau a diwylliant sydd am weithio gyda phobl h?n
•Pobl h?n a grwpiau cymunedol sydd am leisio eu syniadau, a rhannu eu profiadau o raglenni sy'n gyfeillgar i bobl h?n ac ym maes y celfyddydau
Siaradwyr a sesiynau gr?p
Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Trafodaeth panel gyda chynrychiolwyr o Sefydliad Baring, Cyngor Celfyddydau Cymru, Age Cymru a Chomisiynydd Pobl H?n Cymru. Dan Gadeiryddiaeth Paul Cann (cyn Brif Weithredwr Age UK Sir Rhydychen a sylfaenydd yr Ymgyrch Atal Unigrwydd)
Cyflwyniadau am astudiaethau achos gan sefydliadau ledled Cymru sy'n defnyddio'r celfyddydau a gweithgarwch creadigol i helpu i wneud Cymru'n genedl sy'n gyfeillgar i bobl h?n
Perfformiadau gan Ddawns i Bawb, Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Chelfyddydau Entelechy
Sesiynau gr?p:
•A1: Y Celfyddydau a Dementia – gan gynnwys canfyddiadau gwerthusiad o brosiect cartrefi gofal cARTrefu Age Cymru a gyflawnwyd gan Ganolfan Ymchwil i Ddementia Prifysgol Bangor, a chanfyddiadau gwaith ymchwil Cerddoriaeth mewn Ysbytai ar fanteision cerddoriaeth i bobl sy'n byw â dementia datblygedig
•A2: Y Celfyddydau ac Iechyd - gan gynnwys y gwersi a ddysgwyd trwy'r Cynllun Cyfeirio am Ymarfer Corff, a sut mae cydweithwyr yn y gogledd yn datblygu rhaglenni'r Celfyddydau ar Bresgripsiwn
•A3: Ymgysylltu dwysach i estyn allan at bobl h?n – gan gynnwys sut i ymgysylltu dynion h?n yn y celfyddydau. Bydd Oriel Whitworth yn rhannu datblygiadau diweddar yn sgil eu Llawlyfr Ymgysylltu Dynion H?n trwy'r Celfyddydau, a bydd Shedders from the Squirrel’s Nest Men Shed yn rhannu eu profiadau o fod yn rhan o'r prosiect arobryn Pimp My Uke
•A4: Trechu arwahanrwydd ac unigrwydd – gan gynnwys cyflwyniad gan yr Ymgyrch Atal Unigrwydd am eu rhaglenni sydd ar y gweill yng Nghymru.
Dates:
- Thursday 6th April 2017
Venue:
Start time:
10:00 AM
Duration:
6.5 hours
Cost:
£20 - £30