Dathlu creadigrwydd ymysg pob hŷn

Gŵyl 2022

Gwanwyn: Dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn

Mae Gwanwyn yn ŵyl fis o hyd a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn sy’n dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn. 

Yn dwyn yr enw Gwanwyn, mae’r ŵyl yn dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn ac yn tynnu sylw at ein gallu i adnewyddu, tyfu a chreu. Dechreuodd yr ŵyl yn 2007 ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae’r wyl yn cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol naill ai fel ymarferwyr, trefnwyr neu aelodau o’r gynulleidfa. Mae Gwanwyn hefyd yn helpu pobl hŷn i gydnabod y buddion y gall bod yn greadigol eu cynnig i’w hiechyd a’u lles.

Thema gŵyl Gwanwyn ym mis Mai 2022 yw ‘Cysylltiad’.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi torri cysylltiadau rhwng teuluoedd a ffrindiau, gan gynyddu lefelau unigrwydd ac arwahanrwydd. Wrth i gyfyngiadau leddfu, roeddem am ddathlu sut y gall creadigrwydd arwain at gysylltiadau cymdeithasol newydd neu ailsefydlu.

Byddwn yn croesawu gweithgareddau anghysbell yn ogystal â digwyddiadau personol. Gallai’r rhain fod yn weithdai ar-lein lle gall cyfranogwyr roi cynnig ar weithgareddau creadigol gartref, neu drefnu digwyddiadau dan do neu awyr agored: ar yr amod eu bod yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau’r Llywodraeth.

Fel erioed, nod Gwanwyn yw herio syniadau rhagdybiedig ac ystrydebol o heneiddio a phobl hŷn ac, ar yr un pryd, annog artistiaid ledled Cymru i adlewyrchu bywydau pobl hŷn a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

I restru digwyddiad neu weithgaredd fel rhan o Ŵyl Gwanwyn 2022, llenwch y Ffurflen Wybodaeth am Ddigwyddiadau neu e-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk.

Anfonwch e-bost at gwanwyn@agecymru.org.uk i dderbyn y newyddion diweddaraf am yr ŵyl eleni.

^
Yn ôl i’r brig