Yn Llygad eich Meddwl
Dechreuodd yn Llygad eich Meddwl brosiect arloesol dan arweiniad Gwanwyn mewn cydweithrediad â staff a chleifion Ward Seren, sy’n uned asesu dementia yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Diolch i’r prosiect, mae artistiaid wedi bod yn ymweld â’r ward ers 2011 i ddod o hyd i ffyrdd y gallant weithio gyda’r nyrys a’r cleifion. Y prif nod oedd, nid yn unig cynhyrchu gwaith ar gyfer y ward, ond ymgorffori celf ym mywyd bob dydd ac arfer therapiwtig y ward, gyda phob math o fuddion cysylltiedig ar gyfer iechyd a lles y rheiny a oedd yn cymryd rhan.
Rydym ni wedi gwahodd amrywiaeth o ymarferwyr, gan gynnwys artistiaid gweledol, seramegyddion, cerddorion, adroddwyr straeon a beirdd, i ddatblygu gweithgarwch ac integreiddio’r gwaith hwn i mewn i fethodoleg yr uned.
Mae dealltwriaeth yr uned newydd o werth cynhenid y celfyddydau wedi ffynnu. Mae’n boblogaidd gyda chleifion, staff a theuluoedd ac, erbyn hyn, mae lle pwrpasol ar gyfer y celfyddydau a rhaglenni artistig yno.
Yn 2014, fe wnaeth myfyrwyr o’r rhaglen Drama Gynhwysol ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd, gysgodi’r sesiynau a gyflwynwyd gan yr artistiaid proffesiynol a chreu arddangosiadau perfformio bychan a wnaeth bwydo i mewn i’r asesiad ymarferol yn eu blwyddyn derfynol.
Mae gan y staff yr hyder nawr i ddatblygu eu syniadau creadigol eu hunain yn y ward, ac maent wedi creu ystafell gelf a wal lyfrau.
Yn sgil llwyddiant y prosiect, gwahoddwyd arweinwyr y prosiect (Rheolwr Prosiect Gwanwyn a Rheolwr y Ward yn yr uned asesu dementia) i siarad am Yn Llygad eich Meddwl yng nghynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru ym mis Ionawr 2014.
Fel rheolwr ward Seren, ni allaf ddiolch ddigon i Gwanwyn am gytuno i roi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol iawn. Mae wedi ein helpu ni i ffurfio dyfodol asesu dementia ar wardiau ysbyty.
Fe wnaeth y prosiect barhau yn 2015, gyda phartneriaeth newydd rhwng Gwanwyn, Prifysgol Cymru (Casnewydd) a Gwent Arts in Health. Mae myfyrwyr 3ydd blwyddyn ar y cwrs Drama Gynhwysol yn cael eu mentora gan artistiaid yn Llygad eich Meddwl i gyflwyno sesiynau celf i gleifion dementia. Bydd y myfyrwyr wedyn yn cyflwyno eu prosiect blwyddyn olaf fel rhan o Gwanwyn 2015.