Book of Spells (2009)
Ydych chi erioed wedi meddwl beth ddigwyddodd i’r hen wrach yn y coed ar ôl i Hansel a Gretel ddianc heb gael eu bwyta? Ydych chi eisiau gwybod? Mae storïwyr o Ganada, Jan Andrews a Jennifer Cayley, yn mynd â chi’n ôl i’r tŷ sinsir yn y fforest yn eu sioe, ‘A Book of Spells’.
Mae’n daith i leoedd hud a lledrith lle nad oedd y Brodyr Grimm hyd yn oed wedi mentro mynd, a byddent yn hoffi eich croesawu i’w perthynas bywyd go iawn – uno “dwy hen wraig fach” fel y maent yn disgrifio eu hunain sy wedi dewis treulio eu bywydau gyda’i gilydd. Yn gynnar yn y sioe, mae Jan Andrews a Jennifer Cayley’n cofio eu syndod, yn y cychwyn cyntaf , wrth feddwl y gallent fod yn lesbiaid. Roedd y ddwy’n briod, un yn anhapus, un mewn priodas berffaith … a dyna gychwyn eu stori.
Nid amser stori i blant yw hi ond yn hytrach taith lawn dychymyg ar gyfer oedolion â meddwl agored.
Benthyciwyd y chwedl a ail ddychmygwyd am y wrach yn y tŷ sinsir o lyfr gan Sara Maitland. Ysbrydolir storïau eraill gan fywydau go iawn Jan a Jennifer, sy’n aml yn meddwl amdanynt eu hunain fel pâr o wrachod yn byw yn y coed (mae eu tŷ wrth ochr afon, taith tua awr yn y car o Ottawa).
Dywed Jan “Rydym yn meddwl bod coes ysgub yr un gennym rywle ond nid ydym yn gallu dod o hyd iddi mewn gwirionedd… rydym yn gwau’r storïau hyn at ei gilydd gyda phethau sy’n berthnasol i’n bywydau ni ein hunain. Mae’r sioe’n arddangosfa fyw beth yw pwrpas llenyddiaeth… i ddangos ein hunain i’n hunain.”