Myfyrdodau ar y Cyfnod Clo

Myfyrdodau ar y Cyfnod Clo: Naratifau a Cherddi a Rennir

Daw’r syniad ar gyfer y casgliad hwn o Gwanwyn, Gŵyl y Celfyddydau a Chreadigrwydd i bobl hŷn yng Nghymru a drefnir bob blwyddyn gan Age Cymru. Mae’n ceisio casglu a dathlu profiad pobl hŷn y mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnynt.

Mae’n cwmpasu straeon unigol pedwar o bobl a gysylltodd ag Age Cymru yn ystod pandemig Covid-19 ar gyfer ‘Check in and Chat’ a straeon newydd gan bobl hŷn a wnaeth ddefnyddio’r cyfnod clo i fod yn greadigol.

Gallwch weld fersiwn digidol o’r cyhoeddiad isod.