Reflection on Lockdown Storytelling Project – February Workshops / Myfyrio ar Brosiect Adrodd Straeon y Cyfnod Clo – Gweithdai Mis Chwefror

Posted Tuesday, January 19th, 2021

A friendly Zoom get-together for the over 50’s where you can learn more about creative writing and story-telling and develop your existing skills. You can dip into one of the sessions, or join us throughout the month to develop your writing.

Cyfarfod Zoom cyfeillgar i bobl dros 50 oed lle y gallwch ddysgu mwy am ysgrifennu creadigol ac adrodd straeon a datblygu’ch sgiliau presennol. Gallwch fynychu un o’r sesiynau, neu ymuno â ni drwy gydol y mis i ddatblygu’ch sgiliau ysgrifennu.

 

Age Cymru is gathering the reflections of older people during the Covid19 lockdown and hope that you will be inspired to share your experiences, in Welsh or English, after attending the workshops.

Mae Age Cymru yn casglu myfyrdodau pobl hŷn yn ystod cyfnod clo Covid19 ac yn gobeithio y byddwch wedi’ch ysbrydoli i rannu’ch profiadau, yn Gymraeg neu Saesneg, ar ôl mynychu’r gweithdai.

 

All workshops sessions will be 1 – 1.5 hours. Use the Eventbrite links to book onto the workshops and you’ll be sent the Zoom link 24 hours before.

Bydd yr holl sesiynau gweithdy’n para 1 – 1.5 awr. Defnyddiwch y dolenni Eventbrite i neilltuo lle yn y gweithdai a bydd y ddolen Zoom yn cael ei hanfon atoch 24 awr o flaen llaw.

 

If you have any questions, please call 02920 431555 or email Kelly.barr@agecymru.org.uk.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 02920 431555 neu anfonwch neges e-bost at Kelly.barr@agecymru.org.uk.

 

Tuesdays

Sarah Reed has created a range of innovative communication products, projects and workshops, based on her award-winning REAL Communication Framework and Many Happy Returns conversation trigger cards, since 2005. Recently, for Age Cymru, she has been gathering and celebrating shared life stories of older people across Wales who have become isolated by age and circumstances.
This interactive workshop will boost your understanding, confidence and ways of telling your stories, supported by a range of strategies, tips and tools.

Dydd Mawrth

Mae Sarah Reed wedi creu ystod o gynhyrchion cyfathrebu, prosiectau a gweithdai arloesol, wedi’u seilio ar ei Fframwaith Cyfathrebu REAL a’i chardiau annog sgwrs ‘Many Happy Returns’ arobryn, ers 2005. Yn ddiweddar, ar gyfer Age Cymru, mae hi wedi bod yn casglu a dathlu straeon bywyd a rannwyd gan bobl hŷn ledled Cymru sydd wedi cael eu hynysu oherwydd oedran ac amgylchiadau.
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cynyddu eich dealltwriaeth, eich hyder a’ch ffyrdd o adrodd eich straeon, gyda chymorth amrywiaeth o strategaethau, awgrymiadau ac adnoddau.

Tuesday 2 February 2pm / Dydd Mawrth 2 Chwefror 2pm

Tuesday 9 February 2pm / Dydd Mawrth 9 Chwefror 2pm

Tuesday 16 February 2pm / Dydd Mawrth 16 Chwefror 2pm

Tuesday 23 February 2pm / Dydd Mawrth 23 Chwefror 2pm

 

Fridays

Join Deb Winter, a professional storyteller & writer. Deb is known for her warm & relaxed Creative Writing & Storytelling Workshops and has travelled across Wales telling stories from Anglesey to Swansea, in roundhouses, cafes, theatres & campsites. During lockdown she is telling stories & listening to older people’s stories by phone & zoom. Deb has had a varied career from drystone waller, debt counsellor and Samaritan through to performing as the Snow Queen to entertain children.

Dydd Gwener

Ymunwch â’r storïwr a’r awdur proffesiynol, Deb Winter. Mae Deb yn adnabyddus am ei Gweithdai Ysgrifennu Creadigol ac Adrodd Straeon gwresog a hamddenol ac mae hi wedi teithio ledled Cymru yn adrodd straeon o Ynys Môn i Abertawe, mewn tai crwn, caffis, theatrau a safleoedd gwersylla. Yn ystod y cyfnod clo, mae hi’n adrodd straeon a gwrando ar straeon pobl hŷn dros y ffôn a thrwy Zoom. Mae gyrfa Deb wedi amrywio o fod yn wneuthurwr waliau sych, cwnselwr dyledion a Samariad i berfformio fel Brenhines yr Eira i ddifyrru plant

Friday 5 February 2pm / Dydd Gwener 5 Chwefror 2pm

Friday 12 February 11am / Dydd Gwener 12 Chwefror 11am

Friday 19 February 2pm / Dydd Gwener 19 Chwefror 2pm

Friday 26 February 11am / Dydd Gwener 26 Chwefror 11am

 

 

 

Tags: ,