Clwb Cadw Cyswllt
Type of Event: Multi Art
Sesiwn gymdeithasol yw Hwyl a Hamdden ar gyfer aelodau dros 50 oed sy’n cyfarfod yn wythnosol fel arfer yn Theatr Felinfach, Mae’r sesiwn yn amrywio o wythnos i wythnos ac yn cynnwys siaradwyr, teithiau, sesiynau celf a chrefft ac adloniant ysgafn.
Rwyf eisoes wedi cysylltu gydag aelodau Hwyl a Hamdden o flaenllaw a holi cyfres o gwestiynau iddynt. Rwyf wedi anfon yr atebion at artist – Elin Vaughan Crowley fel brîff iddi fedru creu 2/3 llun. Byddwn wedyn yn troi’r lluniau’n gardiau post. Anfon 3 cerdyn post yr un i bob aelod o Hwyl a Hamdden a stamps gydag enwau 3 aelod arall iddynt ysgrifennu atynt – yr enwau wedi eu tynnu o het yn hollol random.
Y syniad yw gan nad yw’r aelodau wedi gallu dod at ei gilydd o gwbl dros y flwyddyn ddiwethaf ein bod yn eu cynorthwyo i gadw mewn cyswllt a’i gilydd gyda Chlwb Cadw Cyswllt.
Bwriad lluniau’r cardiau post yw eu bod yn atgoffa’r aelodau o ddigwyddiad wythnosol pwysig iddynt sy’n arfer cael ei gynnal mewn lleoliad cysurus a chartrefol gyda chwmni da a llawer o chwerthin. Felly yn ogystal ag anfon cardiau post at eraill byddant hefyd yn derbyn cardiau post a bydd y cardiau ganddynt i’w cadw - Clwb Cadw Cyswllt Cyfnod y Clo.
Dates:
- Monday 17th May 2021
Venue:
Start time:
10:00 AM
Duration:
Drop in
Cost:
Free
Language:
Event will be delivered in Welsh