PARTICIPATORY ARTS – CAPTURING THE LEARNING / CELFYDDYDAU CYFRANOGOL – CIPIO’R DYSGU: Older People / Pobl Hŷn

Posted Friday, May 22nd, 2020

In response to the lockdown triggered by COVID-19, many arts organisations have taken their work online, sharing content for audiences to view for free. However, creating participatory engagement online is much more challenging and, as a sector used to being face to face with people in their practice, it’s clear that the current restrictions change the nature of our work substantially.

Following a vital conversation on social media led by Guy O’Donnell, Learning and Participation Producer, National Dance Company Wales which opened a discussion on how we can deliver participatory arts effectively, a range of partners are collaborating to lead Zoom discussions for the sector where we can talk about the impact of the lockdown on our work and work creatively together to think beyond the lockdown.

This Zoom meeting will explore how we capture the learning from organisations and artists who are currently delivering projects. We’ll explore what methods are working well, what are we learning through this experience, and how we are adapting our working practices.

The following guests will be joining us for this session: Karin Diamond (Re-Live) Hannah Hitchins (Artis Community) Jennifer Hill (Welsh National Opera)

Kelly Barr (Gwanwyn/Age Cymru) will host the meeting on Zoom and curate a range of speakers to kick the discussions off. Artworks Cymru is working with all partners to notate discussions.

Zoom logins will be sent to you once you have registered to join the meeting.

The following partners have collaborated together to bring you this series of Zoom meetings:

ArtWorks Cymru, Gwanwyn, National Dance Company Wales, Tanio, Voluntary Arts Wales, Wales Wide Training Programme, Youth Arts Network Cymru

E: Kelly.barr@agecymru.org.uk

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud a achoswyd gan COVID-19, mae llawer o sefydliadau celf wedi mynd â’u gwaith ar-lein, gan rannu cynnwys i gynulleidfaoedd ei weld yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae creu ymgysylltiad cyfranogol ar-lein yn llawer mwy o her ac, fel sector sydd wedi arfer bod wyneb i wyneb â phobl yn eu hymarfer, mae’n amlwg fod y cyfyngiadau presennol yn newid natur ein gwaith yn sylweddol.

Yn dilyn sgwrs hanfodol ar y cyfryngau cymdeithasol dan arweiniad Guy O’Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogiad, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a agorodd drafodaeth ar sut y gallwn gyflenwi celfyddydau cyfranogol mewn modd effeithlon, mae ystod o bartneriaid yn cydweithio i arwain trafodaethau Zoom ar gyfer y sector lle gallwn siarad am effaith y cyfyngiadau symud ar ein gwaith a chydweithio’n greadigol i feddwl tu hwnt i’r cyfyngiadau symud.

Bydd y cyfarfod Zoom yma’n ymchwilio sut gallwn gasglu’r dysgu gan sefydliadau ac artistiaid sy’n cyflenwi prosiectau ar hyn o bryd. Byddwn yn ymchwilio pa ddulliau sy’n gweithio’n dda, yr hyn rydym yn ei ddysgu drwy’r profiad hwn a sut ydym yn addasu ein harferion gwaith.

Bydd y gwesteion dilynol yn ymuno â ni ar gyfer y sesiwn yma: Karin Diamond (Re-Live) Hannah Hitchins (Artis Community) Jennifer Hill (Opera Cenedlaethol Cymru)

Kelly Barr (Gwanwyn/Age Cymru) fydd yn trefnu’r cyfarfod ar Zoom ac yn paratoi ystod o siaradwyr i ddechrau’r trafodaethau. Bydd Artworks Cymru yn gweithio gyda phob partner i gadw nodiadau o’r trafodaethau.

Anfonir manylion mewngofnodi Zoom atoch unwaith y byddwch wedi cofrestru i ymuno â’r cyfarfod.

Mae’r partneriaid dilynol wedi cydweithio i ddod â’r gyfres hon o gyfarfodydd Zoom i chi:

ArtWorks Cymru, Gwanwyn, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Tanio, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Rhaglen Hyfforddiant Cymru Gyfan, Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru

E: Kelly.barr@agecymru.org.uk

Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/participatory-arts-capturing-the-learning-celfyddydau-cyfranogol-cipior-dysgu-older-people-pobl-hyn-tickets-105776580600