Gwyl 2016
Mae Gwanwyn yn ddeg oed eleni ac rydym ni eisiau dathlu!
Uchafbwyntiau’n cynnwys:
Partïon pen-blwydd ledled Cymru
I ddathlu pen-blwydd, rhaid cael parti. Felly, mewn partneriaeth â Creu Cymru a chynllun Hynt, byddwn yn trefnu partïon pen-blwydd mewn theatrau ledled Cymru i ddathlu’r garreg filltir bwysig hon.
Bydd y partion hyn yn gyfle i bobl flasu gweithgareddau celfyddydol a chreadigol newydd, un ai mewn gweithdai neu sesiynau blasu, ac i fwynhau ystod eang o berfformiadau a dosbarthiadau meistri.
Bydd Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Galeri, Theatrau Rhondda Cynon Taf, Theatr Brycheiniog a nifer o rai eraill yn agor eu drysau ar gyfer y dathliadau arbennig hyn!
Only Men Aloud
Rydym ni’n falch o gyhoeddi y bydd Only Men Aloud yn cynnal eu perfformiad gyda’r prynhawn cyntaf erioed yn Theatr y Coliseum, Aberdâr, yn arbennig i Gwanwyn.
Dydd Sul 22 Mai am 5pm. Tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 08000 147 111, www.rct-arts.org ac o Theatr y Coliseum, Aberdâr, a Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci.
Diwrnod Dawns Gwanwyn
Mae’r Tŷ Dawns yn falch iawn o gynnal Diwrnod Dawns cyntaf Gwanwyn, mewn partneriaeth ag Age Cymru, Striking Attitudes a Rubicon ddydd Sadwrn 21 Mai.
Bydd Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, yn dathlu’r amrywiaeth o grwpiau dawns i bobl hŷn ledled Cymru a’r gorfoledd mae dawns yn ei gynnig wrth uno pobl.
Dyma gyfle i weld cymysgedd o grwpiau cymunedol; darn rhyng-genedliadol ar thema ‘mamolaeth’ a chyfle prin i weld ac i drafod darn sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.
Ail-fyw taith genedlaethol Belonging
Mae’r ddrama lwyfan newydd, Belonging, yn bwerus, ysbrydoledig ac emosiynol sy’n adrodd hanes dau deulu sy’n darganfod nad yw cariad a hwyl yn dod i ben oherwydd dementia.
Mae’r cynhyrchiad dwyieithog hwn yn seiliedig ar gyfweliadau manwl Re-Live gyda phobl sy’n byw â dementia, aelodau eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol. Mae Belonging yn chwalu’r chwedlau sy’n gysylltiedig â dementia ac yn dangos sut mae ffordd i greu Cymru sy’n garedig i ddementia trwy fod yn driw i chi’ch hun, byw yn y foment a… pherthyn.
I weld dyddidau’r daith, ewch i: http://www.re-live.org.uk/belonging
Ei SHED fod
Gan adeiladu ar lwyddiant Pimp Mu Uke y llynedd, mae Gwanwyn a Men’s Sheds Cymru yn cydweithio i greu digwyddiad newydd sbon, Ei SHED fod, sef Eisteddfod Men’s Sheds!
Bydd siedwyr ledled Cymru yn dod ynghyd ar gyfer gweithdai a pherfformiadau cerddorol, gan gynnwys dwlsimer o fynyddoedd yr Apalachiaid wrth y Squirrel’s Nest ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Digwyddiadau cymunedol yn eich ardal
Mae Gwanwyn yn gweithio mewn partneriaeth â dros hanner cant o sefydliadau cymunedol i ddarparu cannoedd o ddigwyddiadau yn eich ardal leol. Mae rhaglen eleni yn amrywio o glytwaith yn Nhreherbert, gweithdai cerflunio yn Llandrindod a sinema sy’n cael ei phweru gan yr haul ym Mhenrhyn Gŵyr. Ffotograffiaeth yn Sir Gâr, crochenwaith yn Ninbych, rhwymo llyfrau yn Aberteifi a gweithdai sacsoffon ym Mhenarth a Chaerdydd – a llawer mwy.
Ewch i’r dudalen digwyddiadau i gael mwy o fanylion.
Caiff y dudalen digwyddiadau ei diweddaru yn rheolaidd felly gwiriwch hi’n aml er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.