Gwyl 2015

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

Canolfan Mileniwm Cymru

music_with_knitting_needlesCynhelir diwrnod llawn o weithgareddau Gwanwyn ddydd Sadwrn, 16 Mai, a fydd yn cynnwys gweithgareddau cyfranogol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan gynnwys parkour, beatboxing a gweithdai graffiti.

Bydd y cyfansoddwr cyfoes, Jobina Tinnemans, yn perfformio Killing Time, a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer Gŵyl MATA yn Efrog Newydd. Bydd y perfformiad yn cynnwys côr o wewyr, a fydd yn gwau yn ystod y perfformiad gan ddefnyddio nodwyddau gwau arbennig a fydd yn cynhyrchu seinweddau (wedi’i ysbrydoli gan dirwedd Sir Benfro).

Cynhelir gweithdy i gyd-fynd â’r perfformiad, a fydd yn gweithio gyda grwpiau o wewyr hŷn i greu cerddoriaeth gysyniadol gan ddefnyddio’r dechnoleg nodwyddau gwau. Mae’r defnydd hwn o nodwyddau gwau mewn darn newydd, cysyniadol, yn herio ystrydebau o ran beth a ddisgwylir a syniadau rhagdybiedig ynghylch bod yn unigolyn hŷn yng Nghymru.

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Gan feithrin ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol, bydd Aberystwyth yn cynnal diwrnod llawn o gelfyddydau cyfranogol ar gyfer pobl hŷn. Bydd y ganolfan gyfan yn cael ei defnyddio, a bydd y gweithdai’n cynnwys crefft, ffotograffiaeth, ac adrodd straeon a dylunio digidol. Bydd teithiau a sgyrsiau, sy’n uno â rhaglenni presennol y ganolfan, yn cael eu cynnig i bobl hŷn fel rhan o ddigwyddiadau’r diwrnod.

Galeri, Caernarfon

Mae Gwanwyn yn parhau i gynorthwyo datblygu CAIN, sy’n grŵp dawns i bobl hŷn dan arweiniad coreograffydd o Gymru, Cai Tomos. Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Galeri yn 10 oed, mae CAIN yn datblygu gwaith newydd, gan gynnwys darn gyda Cai ac aelod o CAIN sy’n ddall. Esboniodd Mari Emlyn, Cyfarwyddwr Artistig Galeri, ‘mae’n un o’r darnau mwyaf emosiynol coreograffi rwyf wedi’i weld erioed’.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno fel rhan o sesiwn rhannu gyhoeddus TONIC ar 14 Mai.

My Turn

Gan weithio mewn partneriaeth â Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro, nod My Turn yw ymgysylltu â phobl hŷn sy’n teimlo eu bod yn cael eu hymylu neu fel arall yn methu ymuno â darpariaeth bresennol. Gan ddefnyddio technegau datblygu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, bydd Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro yn cyflwyno grŵp o bobl hŷn at amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol cyfranogol. Mae gan Gwanwyn gyfrifoldeb i weithio gyda phob unigolyn hŷn yng Nghymru, nid y rheiny sy’n ddigon hyderus i ymuno yn unig. Nod My Turn yw gwneud i gyfranogwyr deimlo y gallant gyrchu darpariaeth y celfyddydau eraill yn y dyfodol.

Gŵyl Agwedd

attitude_350Mae’r ŵyl hon sy’n para diwrnod, ym Merthyr Tudful, a gynhelir ddydd Sadwrn, 9 Mai, yn arddangos gwaith artistiaid hŷn trwy amrywiaeth o berfformiadau, dosbarthiadau meistr a gweithdai. Mae’n dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol y celfyddydau sy’n parhau i wthio’r ffiniau trwy greu gwaith newydd. Mae Agwedd yn ymwneud llai ag oed a mwy â goddef pŵer yr ysgogiad creadigol, amlygu ymarfer artistiaid sy’n rhannu’r gred bod eu gwaith gorau eto i ddod, ac sydd bob amser yn mireinio eu gwaith a datblygu mewn cyfeiriadau newydd.

Bydd Peggy Seeger yn arwain rhaglen lawn o ddigwyddiadau

Bydd Gwanwyn yn cyflwyno’r digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Head 4 Arts, Tîm Datblygu Celfyddydau Merthyr Tudful, Theatr Soar a Red House.

Men’s Sheds

pimp-my-uke-smlMae prosiect Men’s Shed wedi cael ei ysbrydoli gan sied nodweddiadol dyn yn yr ardd – rhywle lle gall deimlo’n gartrefol, bod yn annibynnol a chyflawni ei ddiddordebau ymarferol. Mae Men’s Shed yn cynnig fersiwn fwy o hyn i grŵp o ddynion sy’n rhannu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithio ar bethau y maen nhw’n eu dewis ar eu cyflymder eu hunain. Maent yn rhannu sgiliau ac yn dysgu’n anffurfiol oddi wrth ei gilydd, p’un ai wrth weithio ar dasgau unigol neu brosiect cymunedol. Mae’n le hamdden lle mae dynion yn dod at ei gilydd i weithio.

Mae Men’s Sheds yn tyfu’n gyflyn ledled Cymru ac mae Gwanwyn yn gweithio gyda nhw ar brosiect o’r enw #Pimp My Uke

Bydd siediau’n cael pecynnau o adeiladu eu hiwcalilis eu hunain a gweithio gyda cherddorion i ddysgu sut i chwarae eu hiwcalilis. Bydd yr iwcalilis yn cael eu beirniadu mewn digwyddiad rhannu yng Nghaerdydd ym mis Medi 2015.

Forget Me Not Chorus

Mae Forget Me Not Chorus yn elusen yng Nghaerdydd sy’n cynorthwyo pobl â dementia a’u teuluoedd, trwy gynnal gweithdai canu a chreadigol wythnosol. Mae Gwanwyn yn gweithio gyda nhw ar eu gwaith ar gyfer y tymor newydd, sy’n dathlu bwyd, a bydd yn eu galluogi i gyflwyno perfformiad yng Nghastell Caerffili.

Fe wnaeth Forget Me Not Chorus gydweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar ar Demenstoria. Yn ddiweddar, enwebwyd cyfarwyddwr cerddorol y côr, Kate Woolveridge, ar gyfer gwobr ‘menyw ysbrydoledig y flwyddyn’ ar raglen Lorraine ar ITV.

Ewch i’r dudalen digwyddiadau i gael mwy o fanylion.