Celf Gyffyrddol

Yn dilyn llwyddiant Yn Llygad eich Meddwl yn Ysbyty Llandochau, gofynnwyd i Ŵyl Gwanwyn helpu gyda chynllun i ddefnyddio celf gyffyrddol yn uned iechyd meddwl newydd Llandochau.

tactile-art-project1Ffurfiom bartneriaeth gydag Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd i ymgysylltu myfyrwyr celf a dylunio yn eu trydedd flwyddyn mewn prosiect cystadleuol i ddylunio celf gyffyrddol ac, ar ôl broses gyflwyno gystadleuol ac ysbrydoledig, dyfarnwyd y comisiwn i dîm a oedd yn cynnwys Adam McGee-Abe, Joseph Simon Murray ac Elizabeth Alison.

Treuliodd yr artistiaid gyfnod yn ymchwilio i faterion a oedd yn ymwneud â defnyddio celf gyffyrddol mewn lleoliadau gofal dementia, ac yna cwblhau’r dyluniad a dechrau gweithio ar y darn terfynol, o’r enw Gwanwyn. Ystyriwyd theori lliw ac effaith patrymau i greu profiad cadarnhaol dymunol a boddhaol. Mae’r gwaith gorffenedig yn cynnwys amrywiaeth o stimwli adnabod 3D y gellir eu defnyddio i roi cyfle i ysgogi atgofion. Gall cleifion, teuluoedd, aelodau o staff a gofalwyr ddefnyddio’r gwaith celf i greu naratif gyda’i gilydd.

Dadorchuddiwyd y gwaith terfynol yn Ysbyty Llandochau ym mis Mehefin 2013 ac fe’i gosodwyd ar y ward fis yn ddiweddarach.

emrys-williams-gwanwyn-oil-and-wax-on-canvasHefyd, mae paentiad Emrys Williams, a gomisiynwyd ar gyfer Gwanwyn yn 2011, bellach yn cael ei arddangos yn yr ysbyty. Dyma gartref newydd y paentiad ar ôl bod ar daith o gwmpas saith oriel gelf ledled Cymru yn 2012/13.

Mae ein perthynas â Llandochau yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn dyheu am sicrhau y caiff celf ei ddefnyddio a’i osod mewn lleoliadau gofal iechyd, a pharhau i gynorthwyo i ddatblygu oriel gelf ar y safle.