Cyllid

Mae Gwanwyn yn gweithredu Cynllun Grant Cymunedol i gynorthwyo sefydliadau sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ŵyl.

Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fathau gwahanol o sefydliadau diwylliannol a chymunedol â phosibl, ac mae sefydliadau sy’n cymryd rhan wedi amrywio o leoliadau theatr ac amgueddfeydd i gartrefi gofal a chanolfannau cymunedol.

Mae’r trefnwyr yn cyfrannu unrhyw beth y gallwch feddwl amdano – paentio, ffotograffiaeth, theatr, dawns, ysgrifennu creadigol, ffilm, adrodd straeon, gweithdai, perfformiadau, arddangosiadau, digwyddiadau rhwydweithio, trafodaethau a llawer mwy.

Mae ein proses ymgeisio yn agor oddeutu dechrau mis Hydref bob blwyddyn ar gyfer gŵyl y flwyddyn ganlynol. Os hoffech gymryd rhan yn yr ŵyl yn 2020, bydd angen i chi wneud cais o fis Hydref 2019. Mae dyddiad cau am geisiadau yn gynnar ym mis Rhagfyr 2019.

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu ym mis Ionawr bob blwyddyn i gyflwyno eu digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr ŵyl ym mis Mai. Mae grantiau gwerth hyd at £500 ar gael.


Mae ein proses ymgeisio nawr ar agor.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 13 Rhagfyr 2019. Byddwn yn hysbysu’r rhai llwyddiannus ym mis Ionawr 2019 i ddarparu eu digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr ŵyl ym mis Mai. Mae grantiau hyd at £500 ar gael.


Hefyd, mae Gwanwyn yn cynorthwyo sefydliadau diwylliannol neu gymunedol sydd eisiau gwella eu cynigion celfyddydol a chreadigol i bobl hŷn trwy gydol y flwyddyn, ac mae ganddo ddiddordeb mewn siarad â sefydliadau (proffesiynol a gwirfoddol) sydd â diddordeb mewn archwilio heneiddio’n greadigol a dathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn.

Cysylltwch i ddarganfod ym mha ffyrdd y gall Gwanwyn helpu.