Gwanwyn at Theatr Felinfach
Type of Event: Multi Art Performance
Bydd gr?p o fenywod h?n yn perfformio darn byr ar y thema ‘Merched Mentrus’ ac yn mynd ar daith wîb ac yn perfformio yn Theatr Felinfach ar ddydd Mercher 25 Maiam un diwrnod yn unig.
Nod y gr?p yw difyrru grwpiau a chynulleidfaoedd mewn llefydd amrywiol ac annisgwyl. Bydd perfformiad olaf y dydd yn cymryd lle am 2.30yh yn Theatr Felinfach i’r gr?p diwylliannol a chymdeithasol - Hwyl a Hamdden - yng nghwmni’r anturiaethwraig o fri, Lowri Morgan.
Bydd y perfformiad yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed gyda gweithgaredd i ddilyn y perfformiad i hyrwyddo’r neges i bawb o bob oed i fentro. Cefnogir y digwyddiad gan Gwanwyn.
Bydd ‘Merched Mentrus’ yn cael ei ddilyn gan dathliad pen-blwydd arbennig i Gwanwyn yn 10 oed! Mae ‘Gwanwyn’ yn dathlu creadigrwydd ymysg pobol h?n drwy gynnig cyfleoedd iddynt gymryd mwy o ran yn y celfyddydau. Rheolir G?yl y Gwanwyn gan Age Cymru, y brif elusen i bobl h?n dros 50 oed yng Nghymru.www.gwanwyn.org.uk neu www.agecymru.org.uk/getinvolved
Dywedodd Dwynwen Lloyd Llewelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Mae G?yl y Gwanwyn yn gyfle gwych i ddathlu pobl h?n o fewn y celfyddydau. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli pobl I gymryd rhan a gwneud rhywbeth gwahanol.”
Mae’r diwrnod AM DDIM ond rhaid archebu lle, ffoniwch Theatr Felinfach ar 01570 470 697 neu ewch i www.theatrfelinfach.cymruneu ewch i Facebook.com/TheatrFelinfachneu Twitter @Theatrfelinfach.
Dates:
- Wednesday 25th May 2016
Venue:
Dyffryn Aeron, SA48 8AF
Start time:
02:30 PM
Duration:
2 hours
Cost:
FREE
Language:
Event will be delivered bilingually