Mae Age Cymru’n chwilio am dri Mentor Artistiaid ar gyfer cyfnod nesaf cARTrefu (2017-19). Rydym yn chwilio am artistiaid sefydledig ac ysbrydoledig mewn unrhyw gelfyddyd sydd â phrofiad o weithio gyda phobl hŷn mewn cartrefi gofal, yn ogystal â gweithwyr cartrefi gofal proffesiynol.
Bydd eich rôl fel Mentor Artistiaid cARTrefu yn cynnwys darparu cymorth, ysbrydoliaeth a mentora arbenigol i bedwar artist rhydd gyfrannol a fydd yn datblygu eu harferion artistig yn ystod pump cyfnod preswyl deuddeg wythnos mewn cartrefi gofal ledled Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ar ddiwedd pob cyfnod preswyl, bydd ein Mentoriaid Artistiaid yn gweithio’n uniongyrchol ag aelodau staff enwebedig yn y cartrefi gofal i ddarparu cymorth ac arweiniad i’w galluogi nhw i gynnal sesiynau creadigol eu hunain gyda phreswylwyr ar ôl i bob cyfnod preswyl ddirwyn i ben.
Cyfanswm gwerth y tendr hwn yw £12,000. Bydd Age Cymru’n talu treuliau fel costau teithio a deunyddiau ar wahân.
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 7 Ebrill 2017 am 12:00pm.