News | Newyddion
Mae Gŵyl Gwanwyn Age Cymru yn dathlu deng mlwyddiant eleni, a hoffem ddathlu’r achlysur arbennig hwn trwy gynnig cyfle i artistiaid o Gymru (neu artistiaid wedi’u lleoli yng Nghymru) i gyflwyno cynigion i ddatblygu a chreu eu gwaith artistig eu hunain i’w gyflwyno yn ystod blwyddyn pen-blwydd Gwanwyn.
Penwythnos i brofi rhywbeth, gwneud rhywbeth – Cer i Greu!
‘Yn ystod 1-3 Ebrill, 2016 mae BBC Cymru Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru a What Next? yn cyd-weithio ar benwythnos o ddigwyddiadau i ddathlu Cymru fel gwlad greadigol – a dyma wahoddiad I chi ymuno yn yr hwyl.
‘Rydym yn hyrwyddo Cymru fel lle i gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol a gwlad sy’n caru bod yn greadigol.
‘Rydym yn gofyn i sefydliadau, grwpiau cymunedol a chymdeithasau o bob math wahodd eraill i gael profiadau creadigol. Gall ymwneud â cherddoriaeth, dawns, ffilm neu ffotograffiaeth. Creu rhywbeth drwy ddefnyddio geiriau, paent neu’n ddigidol. Neu be am fod yn grefftus! Boed yn ddigwyddiad sy’n digwydd yn barod, neu ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu’n unswydd, gadewch i ni wybod be sydd ar y gweill http://cerigreu.cymru
‘Ydych chi am droi’ch llaw at rywbeth newydd? Eisiau gwybod sut y gallwch ymuno yn yr hwyl? Fe fydd map rhyngweithiol ar gael yn fuan yn nodi beth sydd ymlaen yn eich ardal chi.’
BYDD GWANWYN YN 10 OED FLWYDDYN NESAF! Helpwch i ffurfio digwyddiadau celfyddydol ar gyfer, a gyda phobl hŷn, trwy ateb rhai cwestiynau byr a chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill tocynnau i’r theatr!
Gallwch ein helpu i ffurfio dyfodol Gwanwyn. Mae gennym rai cwestiynau a fydd yn ein helpu i ddeall beth rydych yn ei hoffi am y celfyddydau a sut hoffech gymryd rhan yn y dyfodol.
Bydd eich cyfraniad yn helpu i ddatblygu’r ŵyl a, thrwy gymryd rhan, byddwch yn cael eich cynnwys yn ein cystadleuaeth, fel mater o drefn, i ennill dau docyn i ddigwyddiad yn Sherman Cymru neu Galeri, Caernarfon!
https://docs.google.com/forms/d/1ltRP60M2olAeUpa-Hosgb3kZECJAIhvdygu7qAERZNg/viewform?usp=send_form







