Oh What a Lovely War

Posted Saturday, May 21st, 2011

Teitl: Oh What a Lovely War
Dyddiad: Dydd Sadwrn 20 Mai 2011
Lleoliad: Theatr Ieuenctid a Chymuned Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth
Amser: 2.00pm
Cost: Cysylltwch â’r Lleoliad

Perfformiad Gwanwyn arbennig – dydd Sadwrn 21 Mai, 2pm.

Cyfarwyddwr: Richard Hull
Cyfarwyddwr Cerdd: Ric Lloyd
Coreograffydd: Rachel West

Mae Oh What A Lovely War yn cofnodi digwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar gân a thrwy ddogfennau’r cyfnod, ac fe’i cynhyrchwyd yn gyntaf ym 1963 gan Weithdy Theatr Joan Littlewood. Cyfrannodd yr holl dîm i’r gwaith ymchwil manwl i’r cyfnod ac yn y dasg greadigol o roi cig a gwaed i’w deunydd yn nhermau’r theatr. Y canlyniad yw adloniant sydd wedi ennill clod cynulleidfaoedd byd-eang, ac sydd bellach yn glasur yn y theatr fodern. Ym 1969 daeth y fersiwn ffilm yn llwyddiant poblogaidd o ran ei hun.

Gyda chaneuon clasurol o gyfnod y rhyfel, fel ‘I’ll Make A Man of You’, ‘Goodbye-ee’ ac ‘Adieu La Vie’, mae’r cyd-gynhyrchiad hwn rhwng cwmnïau’r Theatr Ieuenctid a’r Gymuned yn addo bod yn adfywiad meddylgar, egnïol a difyrrus o’r sioe gerdd hanesyddol wefreiddiol hon.

‘Cynhyrchiad o’r pwys gorau yn hanes theatr Prydain ar ôl y rhyfel.’ New Statesman

Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01970  62 32 32 am fwy o fanylion